Y Parchedig Aled Edwards OBE
Magwriaeth
Addysg
Gyrfa

Confensiwn Cymru Gyfan

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid


Erthyglau
Adrodiadau
Comments

DPIA

Datganoli Cymreig


'Be Wnaeth y Cynulliad?'
Erthyglau
Pregethau
Sylwadau

Ffydd Hwyl a Gwleidyddiaeth


Hoff Raglen Deledu
Hoff Wefan AS
Hoff Wefan AC
Straeon a Chyffesion

Tudalenau Saesneg

E-bost

Diweddarwyd

31/12/2011

 

 

Blog Cymraeg Aled

Gweplyfr (Facebook) Aled

Degawd Cyntaf y Cynulliad

Croeso

Ers dyfodiad datganoli ym Mai 1999, ysgrifennodd Aled yn helaeth ynghylch nifer o faterion cyfoes. Bu'n cyfrannu'n eang i sawl rhaglen teledu a radio yn arbennig ar faterion yn ymwneud â hawliau dynol, datganoli a thynged ceiswyr lloches a ffoaduriaid a gwaith parhaol cymunedau ffydd Cymru. Trwy'r wefan hon gobeithir ysgogi trafodaeth ystyrlon ar lu o faterion eithaf dadleuol o bersbectif Cristnogol Cymreig arbennig. Aled yw Cadeirydd Displaced People in Action.

Bu Aled yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer BBC Cymru'r Byd am beth amser. Dyma rhai o'r erthyglau hynny.

Newyddion

Eisteddfod yr Urdd 2009

Anerchiad Aled yn y Dathliad Agoriadol

Degawd Cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Mai 2009

Ar achlysur pen blwydd y Cynulliad yn 10 mlwydd oed darparodd Aled restr Saesneg: "The First Decade "What They've Done for Us List".

Bywgraffiad Byr

Comisiwn ar Fesur Iawnderau Prydeinig

Yn 2011, gofynnodd Prif Weinidog Cymru i Aled wasanaethu fel ymgynghorydd ar y Comisiwn ar Iawnderau Prydeinig. Bydd y Comisiwn yn cyflwyno ei argymhellion i Lywodraeth y DU yn ystod 2012.

Gwobr Dathlu Llwydiant Mawrth 2010

Ym Mawrth 2010, derbyniodd Aled Wobr Cydnabod Llwyddiant Llywodraeth Cynulliad Cymru am wasanaethau i berthnasau cymunedol yng Nghymru. Fe'i gwelir yma gyda Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a chyfeillion o Rhondda Cynon Taf: Y Parchedig Marcus Green, y Cyng. Geraint Hopkins a'r Arglwydd Faer a'i brod.

Cynhalwid y gwobrwyo yng Nghastell Caerffili 25 Mawrth 2010.

Confensiwn Cymru Gyfan ar Bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol  Mehefin 2008

Cyhoeddwyd ym Mehefin 2008 i Aled gael ei ddewis yn aelod o Gonfensiwn Syr Emyr Jones Parry ar bwerau'r Cynulliad. 

Gorsedd y Beirdd Mehefin 2008

Cyhoeddwyd ym Mehefin 2008 i Aled gael ei dderbyn fel aelod o'r Orsedd.

Comisiwn Cydraddoldeb a Haliau Dynol Hydref 2007: Cyhoeddwyd y byddai Aled yn gwasanaethu fel aelod o bwyllgor Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd.

Aled i Dderbyn OBE 14eg o Ragfyr 2006

Cyhoeddwyd ddydd Sadwrn 17eg o Fehefin y byddai Aled yn derbyn OBE am ei wasanaeth i elusennau yng Nghymru. Yma, fe'i gwelir gyda'i gyfaill, Saleem Kidwai o Gyngor Mwslemiaid Cymru.

Cynhaliwyd yr arwisgo ddydd Iau 14eg o Ragfyr 2006.

Comisiynydd Cydraddoldeb Hiliol Cymru 22ain o Dachwedd 2006

Cafodd ei gyhoeddi gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y Deyrnas Gyfunol bod Aled wedi ei benodi yn Gomisiynydd Cydraddoldeb Hiliol y CRE yng Nghymru. Cafodd y newyddion ei groesawu'n frwd gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan a Jane Hutt o Lywodraeth Cynulliad Cymru.