|
|
Yn ystod gwanwyn 2001 gofynnwyd i Aled ymweld â chaethion lloches yng Ngharchar Caerdydd. Cafodd ei ddwys bigo gan yr hyn a welodd ac a glywodd gan y caethion eu hunain. Ers hynny, yn anniddig ynghylch y modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a rhannau o’r cyfryngau yn trafod ceiswyr lloches a ffoaduriaid, bu’n barod i sefyll ar flaen y gad wrth drafod alltudion. Cyfrannodd yn gyson i drafodaethau ar y teledu a radio yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol. Bu hefyd yn cefnogi ceiswyr lloches drwy ei waith fel cadeirydd DPIA (Displaced People in Action) a’r gwaith a noddwyd gan Gronfa Goffa'r Dywysoges Diana, y Gronfa Gymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Un o’r prosiectau hyn oedd y cynllun arloesol i hyfforddi meddygon WARD. Yn 2005 gofynnwyd iddo wasanaethu fel cadeirydd Bwrdd Cyngor Ffoaduriaid Cymru. ►
Erthyglau Adroddiadau a Sylwadau Fe'ch gwahoddir i daro golwg ar y dudalen Saesneg ►
2003
2002
2001
|
||||||||||||||||||||||